|
Wedi’i leoli uwchben tref Harlech, mae’r bryn trawiadol hwn yn gartref i fryngaer a charneddau cerrig crwn, a chredir mai carneddau claddu neu seremoni ydyn nhw gan bod gweddillion dynol wedi’u canfod yma. Credir mai Castell Odo, ger Aberdaron, sy’n debyg iawn i Moel Goedog, yw un o’r bryngaerau cynharaf yng Nghymru ac o’r herwydd mae Moel Goedog wedi’i dyddio i’r Oes yr Efydd hwyr, rywbryd oddeutu’r mileniwm cyntaf OC. Credir bod y carneddau’n llawer hŷn. Wrth ddadansoddi’r dyddodion a ganfuwyd yn un o’r pydewau hyn, credir bod y cylchoedd cerrig yn dyddio yn ôl i oddeutu 2000 CC. Mae’r ddau safle gyferbyn â ffordd drac Folief Hir sydd wedi’i dynodi gan gyfres o feini hirion – saif 13 ohonynt yma hyd heddiw. Roedd y ffordd hon yn arwain o Foel Goedog ac yn teithio ar hyd yr arfordir tuag at Feini Hirion, Llanbedr.
|