|
Mae rhai o'r artistiaid eraill yn defnyddio perfformiad i fynegi eu syniadau, er enghraifft Yingmei Duan, a fu'n arddangos ei gwaith yn yr arddangosfa a gynhaliwyd yn Oriel Hayward yn ddiweddar, Art of Change: New Directions from China. Mae gwaith Duan yn ymwneud â syniadau am gyfathrebu a chariad, a gwneud cysylltiad uniongyrchol â'r gwyliwr. Ysbrydolwyd ei gwaith Happy Yingmei gan stori Oscar Wilde, The Happy Prince, ac yn ei pherfformiad, mae'n creu byd breuddwyd, llannerch mewn coedwig llawn awyrgylch lle mae'n cyfarch pob person sy'n dod i mewn. Yn y profiad personol hwn, mae'n cyfathrebu drwy ddosbarthu 'dymuniadau' drwy gyfrwng sain, ysgrifennu a symudiad. Mae Fern Thomas hefyd yn cynnwys perfformiad yn ei harddangosfa yn Ysgol y Tlodion. Pan oedd yn Xiamen, treuliodd amser mewn lleiandy Bwdaidd bychan yno. Mae'r profiad personol a gwerthfawr hwn wedi ysbrydoli cyfres o ddefodau personol y mae'n eu perfformio o flaen camera, gan ddefnyddio gwrthrychau a gasglwyd, breuddwydion ac atgofion i greu naratif a seinwedd ar gyfres o sgriniau. Mae'r ddau 'fynydd' sydd wedi'u codi yn y lle, yn cyfeirio at leoliad y lleiandy Bwdaidd a stiwdio Huanguang a dyma ble bydd yn perfformio nifer o weithredoedd yn ystod yr arddangosfa. Bydd y gweithredoedd hyn yn digwydd ar yr un pryd â gweddïau'r lleianod, fwy na chwe mil o filltiroedd i ffwrdd yn Xiamen, mewn ymgais i gyfathrebu â hwy a chyfleu ei phrofiadau i'r gynulleidfa.
|