|
Prynodd Llinos gamera dugudol DSLR yn lle ci, i gadw’n heini, chwe’ mlynedd yn ôl. Chwe’ mis yn ddiweddarach ennillodd gystadleuaeth yn y Daily Telegraph, a chael trip i Singapor i dynnu lluniau ar gyfer Calendr 2007 Bwrdd Twristiaeth Singapor. Ennillodd Gwobr Ffotograffiaeth ‘Artist y Flwyddyn Cymru 2010’ a cyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2009. Mae'r gwaith yn cofnodi byd o eiliadau byrhoedlog - mewn tirweddau gwledig a diwydiannol, tirwedd dinasoedd, bywydau pobl, ei bywyd hi. Ar hyn o bryd mae ei phrosiect - 'Capel' yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
|