|
Teithiai y Fonesig Herbert Lewis ar gart a cheffyl i recordio caneuon gwerin. Ei phrif ffynhonnell gwybodaeth, heb os nac onibai, oedd Mrs Jane Williams o Dreffynnon, a gofiodd dros ddwsin o ganeuon yn Gymraeg a Saesneg. Roedd Jane Williams yn byw yn wyrcws Treffynnon lle gwelwyd, yn ôl Kitty Idwal Jones, 'nifer o hen wragedd yn eistedd o gwmpas stôf fawr ddu ynghanol ward a honno'n ddigon llwm; eraill yn gorwedd yn eu gwelyau, mewn rhesi hir - heb ddim i'w wneud'. Roedd Jane Williams fel petai'n ymhyfrydu yn y cyfle i dorri ar yr undonedd hwn. Eisteddai'n aros 'yn ei chap a ffedog wen, yn barod iawn i fynd i lawr i ystafell y "meistr" i ganu i mewn i'r ffonograff. Roedd ei llais yn hynod o glir o gofio ei bod yn naw deg oed.' Bu Jane Williams yn ysbrydoliaeth fawr i'r Fonesig Herbert Lewis a chyflwynodd ei chyfrol Alawon Gwerin Sir Fflint (1914) i'r hen wraig 'whose store of songs convinced me that a collection could be made within easy distance of my home.' Yn barnu wrth ragymadrodd y llyfr, câi'r Fonesig bleser eithriadol o'r gwaith casglu. Daeth y cantorion yn ffrindiau agos iddi wrth iddi eu recordio'n perfformio'r caneuon a ddysgwyd ganddynt yn blant.
|