|
Mae arolygon a chloddfeydd geoffisegol parhaus (bob blwyddyn ers 2003) wedi ceisio ymchwilio i o leiaf 25% o'r tomeni a'u gweithgaredd perthnasol. Datgelodd hyn gyfoeth o dystiolaeth amgylcheddol (esgyrn moch, olion planhigion, strwythur pridd), crochenwaith, gwaith metel ac esgyrn dynol. Awgryma tair ar ddeg crochan a bowlen efydd, 37 bwyell, gwaith metel wedi'i fewnforio a'r 79% asgwrn mochyn (cig gloddesta) ei fod yn fan ymgasglu eithriadol, gyda gwledda sylweddol, cyfnewidiadau a chladdedigaethau yn digwydd dros nifer o ganrifoedd (800-10 CC). Mae arwydd o'r fath yn unigryw, yr ymchwil a'r canfyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol. Canfuwyd casgliad cymhleth o byllau, tyllau pyst, aelwydydd a thai crwn o ganol i ddiwedd yr Oes Efydd hefyd o dan y domen. Cadarnhaodd arolwg parhaus bresenoldeb mynwent Oes Efydd gynnar o gofebion crug crwn, ac amgaead Oes Haearn mawr wedi'i ddiffinio gan glawdd mewnol a ffos. Dyma ffactorau posibl dros leoli'r man gwledda yma. Datgelodd cloddfa gychwynnol o'r diweddaraf yn 2007 safle llawn pobl, o ddiwedd yr Oes Efydd ymlaen hyd at ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Bydd gwaith maes yn parhau hyd at 2009-10, yna bydd rhaglen ymchwil ôl gloddfa sylweddol yn cychwyn, yn arwain at gyhoeddiad terfynol fel monograff ymchwil, gyda phapurau interim yn cael eu cynhyrchu ar hyd y ffordd.
|