|
Lleolodd Ffos W (tua 20 x 21m) gornel dde-orllewinol y clostir yn y cae cyfagos. Cadarnhaodd hyn fod y safle yn fwy nag a gredwyd yn wreiddiol, a'i fod oddeutu 1 ha (tua 2.2 acer) o faint. Cafwyd olion cafn palis a chlawdd, a oedd yn hyn na'r wal amgáu garreg, ac a oroesodd fel gwasgariad o gerrig tua 4m o led. Awgrymwyd dyddiad cyn y nawfed ganrif ar gyfer y cyfnod cynnar hwn gan y dyddiad radiocarbon a gafwyd o'r siercol o fewn y pridd a ailddyddodwyd yn y clawdd sef OC 615-875 (Beta 138878, 1320 +/- 70 BP). Roedd y ffos amgáu yn yr ardal hon tua 1.4m o led, ac o leiaf 1m o ddyfnder (rhwystrwyd cloddio llwyr gan y lefel trwythiad). Roedd twmpath llosg yn mesur tua 2m x 1m, a orweddai dan glawdd y clostir, wedi ei drychu gan y ffos hon. Gwyddom bellach fod y twmpath llosg yn perthyn i Ddiwedd yr Oes Efydd, gan iddo roi dyddiad radiocarbon o 1130-885 CC (Beta 138876, 2880 +/- 50 BP).
|