|
Yn enedigol o Gastell Nedd, bu Steffan Morris yn ddisgybl yn ysgol enwog Yehudi Menuhin ac erbyn hyn mae’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cerdd a’r Celfyddydau Perfformio yn Vienna lle mae’n astudio’r sielo gyda’r Athro Heinrich Schiff. Mae datganiadau a pherfformiadau Steffan mewn cyngherddau wedi caniatáu iddo deithio yn eang yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Japan, yr Iseldiroedd, yr Almaen, yr Eidal, Rwsia ac Awstria. Rhai o uchelbwyntiau 2012 : perfformiadau o Goncerto Haydn i’r Sielo gyda Sinfonia Cymru dan arweiniad Paul Watkins a chyngerdd yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen lle gwelwyd Steffan yn arwain ac yn chwarae unawd ar y sielo. Mae Steffan yn un o’r rhai cyntaf i dderbyn gwobr astudio gan Bryn Terfel.
|