|
|
Ar 5 Gorffennaf 2015, daeth ‘meini prawf tir’ tanwydd coed a amlinellwyd yn Safon Pren ar gyfer Gwres a Thrydan i rym. Mae gofynion y Safon Pren wedi cael eu trawsosod yn uniongyrchol i’r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy (RHI) felly maent yn berthnasol i’r rhai a gofrestrwyd ar y Rhestr o Gyflenwyr Biomas (BSL). Mae’r BSL yn darparu ffordd syml i gyfranogwyr RHI ddangos fod eu tanwydd yn cydymffurfio â safonau RHI. Er mwyn i danwydd/danwyddau gael eu hawdurdodi/neu barhau i gael eu hawdurdodi gan BSL rhaid i gyflenwyr yr effeithir arnynt gymryd camau i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r meini prawf tir.
|