|
Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (a elwir yn 'ardoll' neu 'ASC') yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol godi arian gan ddatblygwyr sy'n ymgymryd â phrosiectau adeiladu newydd yn eu hardal. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at y seilwaith sydd ei angen i gefnogi twf, megis ysgolion a gwelliannau i drafnidiaeth. Caiff ASC ei gymhwyso fel tâl ar bob metr sgwâr o arwynebedd llawr newydd a grëwyd gan y datblygiad, a nodir tâl o wahanol gyfraddau ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad, yn dibynnu ar ba mor hyfyw yw pob math o ddatblygiad yw. Gall yr arian a gynhyrchir yn sgil yr ASC gael ei ddefnyddio i ariannu ystod eang o seilwaith sydd ei angen i gefnogi twf yn yr ardal.
|