|
(AMS) eisoes wedi darparu dyddiadau newydd, sydd wedi caniatáu i nifer o feddrodau i gael eu hail asesu. Bellach gwyddom fod dau benglog o Dal-y-bont ger y Trallwng, yn honedig o Frwydr Tal-y-bont (OC 893), yn ôl-ganol oesol. Yn fwyaf arwyddocaol, cadarnhawyd bod beddau a ganfuwyd yn ystod cloddfeydd 1888 a 1938-48 yn fila Rufeinig Cae'r Mead, Llanilltud Fawr, yn rhan o fynwent ganoloesol gynnar uwch adfeilion y fila (tua OC 640-70 a tua OC 790-990). Mae'r canlyniadau hyn wedi agor trywydd newydd o ymchwil o ran hanes dyddiad yr olion dynol hyn ac arwyddocâd eu ysgerbydeg. Mae data ar olion dynol o grannog Llan-gors, Powys, a Llanbedrgoch, Sir Fôn, yn cael eu hintegreiddio i'r rhaglen, er y bydd y cyhoeddiad cyntaf yn canolbwyntio ar ddata Tal-y-bont, Llanilltud Fawr a Benllech.
|