|
Daw’r coreograffydd arobryn ac Artist Cyswllt Sadler’s Wells, Jasmin Vardimon, yn ei hôl i Lan yr Afon nos Fawrth 20 Tachwedd am hanner awr wedi saith, ac i’w chanlyn taith première byd Freedom, ei gwaith newydd y bu mawr ddisgwyl amdano. Bydd y coreograffydd Tanja Raman yn creu gwaith newydd trawiadol gyda’r artist digidol John Collingswood, Beyond the Body, nos Iau 22 Tachwedd am hanner awr wedi saith. Defnyddia John gamerâu niferus i greu tafluniadau diddorol sy’n ymateb i symud egnïol y dawnsiwr, a’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan arloeswyr jazz ambient sinematig gorau Bryste, Eyebrow. Sadwrn 24 Tachwedd ydi awr B-Boy Dance Battle! Bydd beirniaid o fri yn barnu brwydrau amryw arddulliau dawns a cheir cerddoriaeth gan droellwyr rhyngwladol a band taro byw! I ddwyn Darganfod Dawns i ben bydd Kitch’n’Sync, cynhyrchiad rhyfedd theatr ddawns sy’n parodïo’r genre ditectif clasurol, a ysbrydolwyd gan dueddiadau ffasiwn hen a retro, film noir a cherddoriaeth swing electro. Dewch wedi’ch gwisgo fel Dapper Dan neu femme fatale a chipio joch wrth y bar yn y perfformiad cabaret dihafal yma nos Sadwrn 24 Tachwedd am charter i wyth.
|