|
|
Rydym yn gwerthfawrogi bod atal pobl sy'n cael eu denu at y lefel hon o droseddoldeb yn fwy na mater i'r heddlu'n unig ac rydym yn dechrau prosiect i geisio ymgysylltu â'n pobl ifanc gydag asiantaethau partner fel y Gwasanaeth Ieuenctid a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i addysgu dynion ifanc ac oedolion ifanc am beryglon cael eu denu at y sefydliadau troseddol hyn. Bydd yn cymryd amser i newid canfyddiadau ac i atal atyniad y grwpiau troseddol hyn ond mae'n bwysig ein bod yn edrych i'r dyfodol ac yn peidio â chanolbwyntio ar y presennol yn unig.
|