|
Rhaglen atal i bobl ifanc o’r enw 'Ffeithiau Ysmygu' oedd y prosiect buddugol. Roedd wedi’i seilio ar wneud smygu’n llai deniadol, sôn am beryglon mwg ail law a’r angen am amgylchedd di-fwg a glân. Bu Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd, mewn partneriaeth ag adran iechyd a lles yr awdurdod lleol, yn gweithio gyda phobl ifanc i gynhyrchu pecyn addysgiadol ar reoli tybaco y gellid ei ddefnyddio mewn lleoliadau gyda phobl ifanc.
|