|
|
Mae nifer o themau yn llifo drwy’r albym gan greu ymdeimlad cynhyrfus a boncyrs. Mae KO a Madrach, a glywyd ar sengl a rhyddhawyd eisoes, yn cynnig ymdeimlad ‘upbeat’ iawn ac mewn gwrthgyferbyniad mae Bwthyn yn cynnig cymysgedd o ddisgo rhywiol rhyfedd a llais tyner Gwyneth Glyn fel gwestai ar y gân. Mae Raptil a What Goes Around yn ffefrynnau i’r band, dywedodd Ifan, prif leisydd y grwp, “Mae’r rhain yn dipyn mwy ffynci a thywyll i’w gymharu efo’r senglau diwethaf. Mae criw o Goleg Llundain yn westeion ar What Goes Around ac yn rhoi digon o hwyl a gwallgofrwydd i fewn i’r gân.”
|