|
|
Hoffwn ddiolch i'm rhagflaenydd, Neil Jones, am ei ymrwymiad a'i ymroddiad i'n cymunedau ac rwy'n falch o ddweud y bydd Neil yn aros i arwain un o'n timau. Mae ei brofiad helaeth a'i wybodaeth leol sylweddol yn golygu ei fod yn gaffaeliad mawr, ac rwyf yn falch iawn i fod yn gweithio gydag ef. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl staff sy'n gweithio ledled Sir Fynwy am eu hymdrechion parhaus i'ch cadw chi'n ddiogel a sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef. Maen nhw'n dîm gwych ac rwyf yn lwcus iawn i fod yn gweithio gyda nhw.
|