|
|
Mae amryw o drysorau ym mae a harbwr Porthdinllaen. Yno gallwch weld gwenoliaid y glennydd yn nythu, morwellt ar ddolydd tanfor, y morloi yn hamddena, heb anghofio adfeilion yr hen gaer o oes yr haearn. Yma hefyd mae hen stordai a gwestai wedi eu troi’n dai, gorsaf y bad achub ac wrth gwrs Tafarn Tŷ Coch. Eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Porthdinllaen bellach ers 1994 a’i nod yw gwarchod y lle arbennig hwn i bawb am byth. Heblaw am warchod y bywyd gwyllt a hanes yr ardal mae’r Ymddiriedolaeth yn gwarchod hefyd yr harbwr mewnol ac angorfa’r cychod. Mae ganddynt ddau fwthyn gwyliau yn y pentref i’w gosod i ymwelwyr fel y gallant fwynhau gogoniant y lle.
|