|
Daw Neil Jakeman ag ystod eang o brofiad yn y Dyniaethau Digidol ac arbenigedd penodol mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), yn cynnwys mapio hanesyddol. Mae'n gweithio yng Ngholeg y Brenin, Llundain, yn llunio'r gronfa ddata lle bydd casgliadau helaeth y prosiect o dystiolaeth archaeolegol a hanesyddol ar draws rhanbarth yr Iwerydd yn cael eu crynhoi. Canlyniad hyn fydd creu adnodd pwysig a fydd ar gael i ymchwilwyr eraill a'r cyhoedd cyn diwedd y prosiect. Bydd modd defnyddio'r gronfa ddata arlein, a bydd yn cael ei chynnal gan y Llyfrgell Genedlaethol pan fydd y prosiect wedi ei gwblhau.
|