|
Yn wreiddiol o gefn gwlad Gogledd Cymru, mae Sweet Baboo, a adwaenir hefyd fel Stephen Black, yn ganwr idiosyncratig penderfynol a chanddo glust i glywed alaw fywiog a dawn gelfydd i gyfansoddi geiriau – o’r doniol a thywyll hyd at dynerwch ingol, o’r rhodresgar a sionc hyd at yr hyfryd hunan-fychanol. Cafodd ei bedwaredd LP a’r record gyntaf a ryddhaodd gan Moshi Moshi Records ‘Ships’ dderbyniad addawol yn 2013. Ar ôl ei daith gyntaf erioed fel prif artist yn y DU, ymddangosodd mewn gwyliau drwy gydol yr haf, gan gynnwys Glastonbury, Latitude, Gŵyl Rhif 6 a Gŵyl yn Ddyn Gwyrdd. Cafodd y senglau o’r albym ‘Let’s Go Swimming Wild,’ ‘If I Died…’ a ‘C’Mon Lets Mosh’ i gyd eu chwarae ar BBC 6 Music. Ar ôl cael ei enwebu am yr eildro ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig gyda 'Ships' aeth Sweet Baboo ar daith arall o amgylch y DU ddiwedd 2013, a fyddai’n cyd-daro â rhyddhau ei EP 10 trac newydd ‘Motorhome Songs’.
|