|
|
Bu'r artist Rich White o Fryste yn cydweithio efo'r Prifardd Rhys Iorwerth i greu strwythur pensaernïol gwreiddiol yn nghwrt y Castell, mewn ymateb i lwyfan yr Arwisgiad. Artist o ardal Glan Conwy yw Megan Broadmeadow sydd wedi bod yn cydweithio â'r ymchwilydd Jess Mead Silvester o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, i greu gosodiad aml-gyfrwng yn Nhŵr yr Eryr sy'n plethu data eigioneg a delweddau haniaethol. Mae Katie Surridge o Lundain, wedyn, wedi bod yn pysgota am ddarnau o fetel ar gyfer ei cherfluniau hithau, gyda chymorth yr Harbwr-Feistr a'i gwch y Seiont IV. Dyma enwi llond llaw yn unig o'r partneriaethau difyr sy'n digwydd fel rhan o'r prosiect. Bydd tri ar ddeg o weithiau celf i gyd, gyda rhai yn y Castell ac eraill i'w gweld yn Galeri, Balaclafa, y Clwb Iotio, ac ar hyd y promenâd.
|