|
"Erbyn y bydd y baban yn defnyddio’r toiled, byddwch wedi defnyddio 5,000 o gewynnau - sef llond 150 o fagiau sbwriel du sy’n mynd i safle tirlenwi, a byddant yno am gannoedd o flynyddoedd. Er hynny, y manteision ariannol nid amgylcheddol sy’n sbarduno llawer o rieni i ddefnyddio cewynnau go iawn. Gallwch arbed £500 trwy ddefnyddio cewynnau go iawn gyda’ch plentyn cyntaf, a hyd yn oed mwy wedyn gyda’ch plant dilynol. Byddwch yn lleihau gwastraff ac yn arbed arian, sy’n hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni."
|