|
|
Ychydig iawn a wyddom am hanes cynnar y llawysgrif hon. Fe'i hailrwymwyd ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg, mewn gweithdy yn Llundain, yn ôl pob tebyg, efallai gan y sawl a osododd y priflythrennau 'T. M.' yn rhan o'r addurnwaith dall ar y cloriau. Hon yw cyfrol rhif 11 mewn catalog o lyfrgell Plas Power, Sir Ddinbych, a baratowyd ym 1816 gan Richard Llwyd. Yn ei law ef y mae'r nodyn 'Astronomy and very curious' a welir y tu mewn i'r clawr uchaf. Mae'n bosibl fod y llawysgrif wedi cyrraedd Plas Power yn gynharach o lawer, fodd bynnag: efallai mai hon oedd un o'r 'three or four old manuscripts' y cyfeirir atynt mewn catalog o'r flwyddyn 1778, ac mae yna le i gredu hefyd iddi fod ym meddiant Thomas Lloyd (
|