|
|
Sefydliad PRS sy'n cynnal y Gronfa Arddangos Ryngwladol mewn partneriaeth â'r Adran Fasnach Ryngwladol, Cyngor Celfyddydau Lloegr, British Underground, Undeb y Cerddorion, ac yn fwy diweddar Creative Scotland, PPL a PledgeMusic. Mae'n cynnig cymorth i artistiaid fentro i'r byd rhyngwladol am y tro cyntaf, trwy alluogi iddynt berfformio mewn gwyliau a chynadleddau arddangos allweddol fel Wythnos Gerddoriaeth Canada, SXSW, Reeperbahn, Gŵyl Zandari, Womex, Eurosonic, Jazzahead a Mutek, sy'n denu miloedd o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth o bedwar ban y byd.
|