|
Mae prosiect Rhyl yn un o bump cynllun llwyddiannus a gafodd arian o raglen Mentro Allan eleni. Trwy gydweithio ag asiantaethau lleol allweddol, mae'r prosiect yn targedu'r unigolion yn yr ardal sydd mewn perygl o ymddieithrio ee pobl ifanc, menywod, pobl sy'n ddiwaith a'r rheini nad ydynt mewn addysg. Mae'r prosiect bellach yn cynnig rhaglen eang o weithgareddau hamdden yn yr awyr agored gan gynnwys beicio, chwaraeon dwr, dringo, hwylio a chrefft tywod, gan ddefnyddio'r amgylchedd naturiol a'r cyfleusterau lleol sydd wrth law.
|