|
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y bydd y gwelliannau’n debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â hwy. Er na chynigir llunio datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pa fo hynny’n ymarferol. Gellir gweld y cynllun yn Nepo Rhuddlan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ffordd Abergele, Rhuddlan, Y Rhyl, LL18 5UE rhwng 10:00 – 16:00, dydd Llun i ddydd Gwener.
|