|
|
Pan fydd rhywun yn ymweld â www.grhr.wales, rydyn ni’n casglu gwybodaeth logio safonol y rhyngrwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn darganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o’r wefan. Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth mewn ffordd nad sy’n adnabod neb yn unigol. Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy unrhyw ymwelydd. Ni fyddwn ni’n cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r wefan hon ag unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolyn o unrhyw ffynhonnell. Os ydyn ni’n dymuno casglu gwybodaeth benodol am unigolion drwy ein gwefan, byddwn yn dweud hynny’n agored. Byddwn yn ei gwneud yn amlwg pan fyddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol, ac yn egluro’r hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud â’r wybodaeth.
|