|
Y mae’n bwysig nodi fod yr MTT yn gynllun grant cadwraeth i bob pwrpas gyda phwyslais yn cael ei osod ar ddulliau traddodiadol a deunyddiau sy’n briodol i’r adeilad ble bynnag y bo’n bosibl, er enghraifft, nid yw ffenestri UPVC yn dderbyniol. Disgwylir safon uchel o grefftwaith ar gyfer yr holl waith. Mae grantiau yn ad-daladwy os yw’r perchennog yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’u diddordeb yn yr eiddo o fewn cyfnod penodol. Bydd ad-daliad o gyfran o’r grant yn ofynnol fel y gwêl yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill yn briodol. Ar gyfer grantiau hyd at £25,000 bydd yr amod yn gymwys am 5 mlynedd ers derbyn y grant. Ar gyfer grant o £25,000 ac uwch bydd yn gymwys am 10 mlynedd o’r dyddiad y cafodd taliad olaf y grant ei dalu.
|