|
|
Yn dilyn y noson agoriadol, fe fydd Estron yn mynd ar daith genedlaethol i ganolfannau amrywiol, gan gynnwys sawl canolfan yn y gymuned, drwy gyfrwng cynllun Noson Allan. Mae cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol i gynorthwyo grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod â chynyrchiadau proffesiynol i leoliadau cymunedol. Bydd y daith yn mynd i Ganolfan Garth Olwg (Pentre’r Eglwys, Pontypridd), Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Theatr y Stiwt (Rhosllannerchrugog, Wrecsam), Theatr Bro Alaw, Ysgol Bodedern (Bodedern, Ynys Môn), Theatr Felinfach (Dyffryn Aeron), Pontio (Bangor), Canolfan Morlan (Aberystwyth), Neuadd Gymunedol Maenclochlog (Sir Benfro), Ffwrnes (Llanelli), Chapter (Caerdydd), Canolfan y Celfyddydau Taliesin (Abertawe) a Galeri (Caernarfon). I weld y manylion llawn, gan gynnwys dyddiadau a sut i archebu tocynnau, ewch i http://theatr.cymru/portfolio/estron-2018/
|