|
Mae'r tair dogfen ar ddeg wreiddiol arall wedi'u cadw mewn gwahanol archifau ac archifdai. Ceir tair ohonynt yn Archifau Niwbwrch (Adran Rug) XD2/1111, 1112, 1113 yng Ngwasanaeth Archifau Gwynedd, Caernarfon, sef rhoddion i'r abaty gan Maredudd ap Hywel, Elisau ap Madog a Madog ap Gruffudd o diroedd ym Mhenllyn ac Edeirnion. Fwy na thebyg bod dwy siarter arall yn ymwneud â thiroedd un ai ym Mhenllyn neu Edeirnion. Mae un, BL Addl. Charter 10637, yn rhodd gan Madog Ap Gruffudd Maelor o dir o'r enw
|