|
Ar ddechrau 2011, dychwelodd Cate i’r stiwdio i ddechrau gweithio ar record newydd ei hun. Gan ddefnyddio’i phrofiadau yn ystod y flwyddyn flaenorol, mae Cate wedi creu casgliad o emau pop sy’n swnio fel petaent wedi syrthio oddi ar garwsél toredig, wedi ei drwytho â bywiogrwydd Faust a Syd Barrett a melodïau trofannol Os Mutantes. Mae digonedd o chwarae â geiriau dirfodol ac mae llinellau 'fuzz fused guitar' yn rhuthro drwy’r cyfan fel gwenynen gas mewn TUN ar yr albym newydd, CYRK, sydd yn mynd i gael ei rhyddhau ar ddechrau 2012. Wrth i un prosiect ddirwyn i ben mae un newydd yn ymddangos gyda gefaill Cate - sef ei brawd Meilyr Jones, y canwr main o’r grŵp pop siambr Race Horses. Gwnaeth y pâr un sesiwn i Bethan Elfyn dan yr enw Yoke. Yn ddiweddar maent wedi chwarae cyfres o sioeau byw trawiadol, yn cynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, ac ar hyn o bryd maent yn caboli eu halbym gyntaf yn derfynol.
|