|
Llongyfarchiadau i ein Trysorydd Anrhydeddus Joanne Taylor a dyfarnwyd y wobr Cynghorydd Gyfraith Teulu Grant Stephens 2018 yn y noson wobrwyo Celfyddydau a Busnes Cymru yr wythnos diwethaf am ei chyfraniad rhagorol fel aelod o Fwrdd CAC. Mae Jo wedi cynghori a chefnogi CAC ers ymuno â ni fel Ymddiriedolwr cyfetholedig ym mis Medi 2013 ac yn dod yn ein Trysorydd ym mis Hydref 2015. Mae Jo wedi dangos ei hymrwymiad i'r sefydliad drwy ei mewnbwn i'r cynlluniau busnes; cynlluniau gweithredu; adolygiad strwythurol; a mynychu diwrnodau cwrdd i ffwrdd, cyfarfodydd a digwyddiadau; yn gweithio'n galed i sefydlu dyfodol hirdymor ar gyfer CAC. Yn ogystal â helpu sefydliad gyflwyno prosesau ariannol syml, tryloyw, mae Jo wedi arwain y sefydliad drwy'r broses gofrestru fel SEC ac wedi helpu i recriwtio Swyddog Cyllid newydd a Chyfarwyddwr newydd yn ddiweddar. Mae Jo yn uwch reolwr elusennau ac nid am elw i Alexander Broomfield yng Nghasnewydd ac rydym wrth ein bodd fod ei chyfraniad wedi'i gydnabod gan y panel Gwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru.
|