|
Yn y rhan fwyaf o achosion rhoddir arian ar gyfer gweithgaredd neu ddiben penodol h.y. arian cyfyngedig. Gall rhai noddwyr roi arian anghyfyngedig, lle gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw weithgaredd sy'n datblygu neges neu amcanion sefydliad. Os ydych yn awyddus i wario arian ar rywbeth na wnaethoch ofyn amdano'n wreiddiol, cadarnhewch hynny'n gyntaf gyda'r noddwr cyn ei wario. Efallai y byddant yn caniatáu i chi ddefnyddio'r arian at ddibenion eraill, yn arbennig os yw'n gysylltiedig â'r angen gwreiddiol. Ni ddylech gael eich temtio i'w wario heb ganiatâd y noddwr, efallai y byddant yn gofyn am yr arian yn ôl!
|