|
|
Mae FACE Cymru yn trefnu cwrs CEVAS ar Ystâd Penpont, Aberhonddu, yn Ebrill 2010. Mae'r cwrs yn para am ddeuddydd, sef 16 a 30 Ebrill, ac yn cychwyn am 9.30 y bore ac yn darfod am 4 o'r gloch y prynhawn. Y gost yw £95 + TAW, ond os ydych yn ffermwr, efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol (80%) gan Farming Connect ffoniwch 08456 000813 i gofrestru ac i wneud cais am gymorth cyn cadw lle. Mae'n bosibl hefyd fod cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr ar incwm isel o Gronfa Wrth Gefn Coleg Cymunedol YMCA Cymru.
|