|
|
Meaning is, therefore, sufficiently unstable to be the kind of entity to which we might attach a verb rather than a noun; it is a property of our engagement with the artwork’s, and our, place in the world; it does not come to us ready-made, portion controlled, a property of superior perception by artists.
|
|
|
Nid yw’r hyn y mae Grennan a Sperandio felly yn eu creu yn pastiches di-ddyfnder a ddeellir mor aml sy’n nodweddu celf post-foderniaeth. Nid yw’r peintiadau hyn ychwaith yn amlygiadau syml o honiad ffug o arwyddocâd drwy ‘beintio’ fel traddodiad o gynrychiolaeth a dyfnder. Mae ‘ystyr’ yn y gwaith hwn yn rhywbeth mwy cymhleth na naill ai’r cynnig syml i’r sawl sy’n gwylio o wirionedd allanol a gwell, nac o ddileu ystyr a ddarperir gan rai artistiaid modernaidd ac ôl-fodernaidd. (Byddai difwyniadau gwarthus y brodor Chapman o Goya yn bwynt cymharu ac yn bwynt i symud oddi wrtho yma.) Yn hytrach, mae ystyr yma yn rhywbeth sy’n strategol dawel, yn gudd ac efallai hyd yn oed yn anfwriadol, sy’n bodoli yn y broses o’i ddiddymiad ei hun. Mae’n rhywbeth hefyd sy’n llawer mwy anodd: mae’n gwneud gofynion arnom o ran dehongli, o ran ‘darllen’ y peintiad – er y byddai dychmygu’r peintiad fel testun mewn rhyw fodd yn rhoi braint anghyfiawn i ysgrifennu dros y ddelwedd. O ganlyniad mae’r gwirionedd mewn peintio yn dod yn rhywbeth sy’n deillio o’n hymdrech ni ein hunain, ac a all, os yw’n bodoli yn unrhyw le, fod yn gynnyrch yn hanesyddol yn hytrach nag yn eiddo cyffredinol, trosgynnol y gwaith celf. Mae ystyr felly yn ddigon ansefydlog i fod y math o endid y gallem atodi berf yn hytrach nag enw wrtho. Mae’n eiddo ein cysylltiad â’r gwaith celf, a’n lle yn y byd. Ni ddaw atom wedi ei wneud yn barod, gyda’i rannau wedi eu rheoli, yn eiddo amgyffred uwch gan artistiaid. Nid yw ystyr yn preswylio; mae’n mudo.
|