|
Mae mis Chwefror yn croesawu Clwb Ffermwyr Ifanc Brycheiniog (5 – 10 Chwefror) gyda’u Pantomeim, Drama a Gŵyl Plus One. Eleni yw 70-mlwyddiant yr ŵyl wythnos o hyd flynyddol hon ac mae’n sicr o werthu pob tocyn eleni eto. Bydd y mynyddwr, dringwr waliau ac awdur anturiaethau gaeafol, Andy Kirkpatrick yn rhoi sgwrs hynod ddiddorol Speakers from the Edge (12 Chwefror) i gyd-fynd â rhyddhau ffilm arobryn, Psychovertical. Bydd Christina Rogers, sy’n enedigol o Aberhonddu, yn ymddangos fel Just Adele (16 Chwefror) mewn cyngerdd croeso adref fydd yn llawn hyd yr ymylon â chaneuon enwog a phoblogaidd, tra bydd 100 o gerddorion ifanc mewn cynghanedd berffaith yn cymryd rhan yn yr 21ain cyngerdd Rorke’s Drift (12 Chwefror). Woman of Flowers (20 Chwefror) sy’n dechrau drama fawr Gymreig gyntaf y tymor wrth i’r cynhyrchiad bywiog hwn a seilir ar chwedlau hynafol Mabinogion adrodd chwedl Blodeuwedd Saunders Lewis mewn ffurf hollol newydd. Bydd y gwestai enwog mawr cyntaf yn cyrraedd ar 23 Chwefror wrth i Jimmy Osmond roi teyrnged i’r anfarwol Andy Williams yn Moon River and Me. Daw Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ôl gyda’u sioe driphlyg atmosfferig, Terra Firma, (26 Chwefror). Bydd y sioe’n cynnwys coreograffi trawiadol gan Caroline Finn, Marcon Morau a Mario Bermudez Gil. Mae’r Cwmni Dawns Cenedlaethol hefyd yn gwahodd cynulleidfaoedd i ddysgu ambell symudiad yn eu gweithdy Darganfod Dawns (27 Chwefror). Daw mis Chwefror i ben gyda chyngerdd Dydd Gŵyl Dewi arbennig iawn, Noson gyda Band y Gwarchodlu Cymreig, (28 Chwefror). Bydd pob elw’n cael ei roi i’r elusen Lluoedd Arfog, SSAFA.
|