|
Adroddwyd: Cyflwynwyd achos busnes gerbron cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol (CaDC), ond wrth baratoi'r achos busnes, daeth AOCC yn ymwybodol o ddogfen ymgynghori Swyddfa'r Cabinet, 'Private Action Public Benefit'. Roedd y ddogfen hon yn cynnig newidiadau i'r gyfraith elusennau a fyddai'n dileu'r gofyniad am i elusennau oedd am fasnachu wneud hynny drwy gwmni masnachu ar wahân. Roedd yr achos fusnes yn cynnig, pe câi Cwmni Masnachol ei sefydlu, y buasai'r staff yn debygol o aros yng nghyflogaeth AOCC. Gellid cyflogi staff newydd o dan gontractau mwy masnachol ac roedd yna bryder y buasai hyn yn arwain yn anochel at gyflogi staff o dan amodau a thelerau gwahanol na fyddai'n ddelfrydol.
|