|
Cam 3 - Cynllun Cyflawni Carbon Isel - Llunio cynllun cyflawni i amlinellu sut y byddwn yn cyrraedd y targedau - Un o brif elfennau'r Ddeddf yw i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar gyfnod pob cyllideb garbon gan nodi'r polisïau a'r cynigion ar gyfer cwrdd â'r gyllideb, gan gynnwys cyfrifoldebau Gweinidogol. Cynhaliodd y tîm datgarboneiddio weithdai ar y cyd gan ddod â meysydd polisi ynghyd i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a chanfod cyfraniadau tuag at ymrwymiadau - gan gynnwys cyfleoedd am Dwf Gwyrdd a chyflawni ar y cyd. Mae rhagor o ddigwyddiadau i randdeiliaid ar y gweill gan ganolbwyntio ar bennu targedau interim a chyllidebau carbon, a rhoi'r Cynllun Cyflawni Carbon Isel ar waith. Os hoffech gael gwybod manylion y digwyddiadau hyn cysylltwch â: Decarbonisationmailbox@wales.gsi.gov.uk
|