|
Ganed TWM MORYS yn Rhydychen ym 1961 a chafodd ei fagu yng Ngwynedd a Sir Frycheiniog wedyn. Twm Morys yw un o ffigurau llenyddol mwyaf nodedig Cymru fel bardd a thelynor sy’n ysgrifennu ar gyfer y teledu, a geiriau i’w canu gyda’i fand roc-gwerin, Bob Delyn a’r Ebillion hefyd. Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, treuliodd gyfnodau’n gweithio dros BBC Radio Cymru ac fel darlithydd ym Mhrifysgol Rennes. Yn ogystal â thair cyfrol o farddoniaeth (Ofn fy Het, 1995; Eldorado, 1999, gydag Iwan Llwyd; 2, 2002), mae Twm wedi llunio corff pwysig o draethodau fel colofnydd ar gyfer amryw o gyfnodolion llenyddol. Yn fab i’r awdures Jan Morris, mae e wedi llunio dwy gyfrol ar y cyd â hi sef Wales, the First Place (Random House, 1982) ac A Machynlleth Triad/Triawd Machynlleth (Penguin, 2004). Ein Llyw Cyntaf (Gomer, 2001) yw ei addasiad Cymraeg o nofel Jan Morris, Our First Leader. Twm Morys yw golygydd newydd Barddas, y cylchgrawn barddonol mwyaf poblogaidd ond un ym Mhrydain.
|