|
“Fy enw yw Anthony; rwy’n 21 mlwydd oed ac yn byw ar hyn o bryd yn llety â chymorth GISDA ym Mlaenau Ffestiniog. Roeddwn wrth fy modd pan glywais y gallwn i wneud gwaith theatr. Rwy’n hoffi actio ac roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yng ngweithdy’r theatr fforwm. Pan ddywedodd Osian ar ddydd Llun y byddai’n cael pob un ohonom i wneud perfformiad erbyn diwedd yr wythnos, doeddwn i ddim yn siŵr, ond yn union fel y dywedodd, gwnaethom roi perfformiad da erbyn dydd Gwener. Roedd y perfformiad cyntaf o flaen 12 o bobl. Ers hynny, rydym wedi perfformio bedair gwaith, o flaen mwy na 300 o bobl, ac wedi cael adborth da. Rydym yn mynd i Lundain y mis nesaf a bydd hwnnw’n brofiad gwych, gan mai hwn yw’r tro cyntaf i mi fynd i Lundain. Mae’r theatr fforwm wedi dangos i mi fy mod yn gallu bod yn hyderus o flaen torf fawr. Mae wedi rhoi digon o hyder i mi wneud cais am waith fel troellwr disgiau hefyd.”
|