|
Dywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan: “Mae prosiect Cysylltiadau Iechyd y GIG, sy’n dod o dan ymbarél Cymru o Blaid Affrica, wedi mynd o nerth i nerth ers iddo gael ei sefydlu dair blynedd yn ôl ac rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu parhau i’w gefnogi. Trwy rannu eu sgiliau, gall staff proffesiynol ym maes iechyd yma yng Nghymru ddatblygu eu profiadau tra bo staff proffesiynol ym maes iechyd mewn gwledydd sy’n datblygu yn cael budd enfawr o arbenigedd ein gweithwyr iechyd a’n sefydliadau academaidd.”
|