|
Mae’r cyngherddau hefyd yn cynnwys perfformiad prin o The Music Makers Elgar pan ddaw’r mezzo-soprano ddawnus Jane Irwin at y Gerddorfa a’r Corws. Yn y gwaith yma cawn Elgar yn synfyfyrio ar ei fwyaf dwys o bersonol a phreifat ar ei fywyd a’i waith, yn rhoi ar gân destun wedi’i seilio ar y gerdd Ode gan Arthur O’Shaughnessy. Er bod llawer o’r gerddoriaeth yn wreiddiol mae hefyd yn cynnwys dyfyniadau o weithiau cynharach Elgar, megis The Dream of Gerontius, Sea Pictures, ei Concerto Ffidil ac Amrywiadau ‘Enigma’.
|