|
Mae mwy na 485,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu wedi’i greu yn y dref ers 2003. Mae datblygiad Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod (cyswllt allanol) er enghraifft yn atgyfnerthu Wrecsam fel prif dref siopa Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys nifer o fanwerthwyr ffasiwn rhyngwladol fel Debenhams, Next, H&M a Marks and Spencer. Yn ogystal â Chanolfan Siopa Dôl yr Eryrod, mae gan Wrecsam dri pharc manwerthu arall ar gyrion Canol y Dref; Parc Manwerthu Border, Parc Manwerthu Central a Pharc Manwerthu Plas Coch, a thair marchnad dan do, a marchnad awyr agored wythnosol.
|