|
The twelve tracks that make up "Pwnco" include a number of compositions by band members :- Kate Strudwick (flute) has contributed "Death in Ennis & The Audient", "Sea Sick Sailors" (which is now partnered with a Chris Jones tune "The Rough Crossing"), and the band has taken this opportunity to work with their great friend, German musician Thomas Roth, who joins them for a reworking of Kate’s beautiful tune "Lle Arall."
|
|
Mae'r deuddeg trac sydd ar "Pwnco" yn cynnwys nifer o ganeuon a gyfansoddwyd gan aelodau'r band - cyfrannodd Kate Strudwick (ffliwt) at "Death in Ennis & The Audient", "Sea Sick Sailors" (a gaiff ei phartneru gyda thôn Chris Jones "The Rough Crossing"), a manteisiodd y band ar y cyfle i weithio gyda'u cyfaill mawr o'r Almaen, y cerddor Thomas Roth, sy'n ymuno â hwy am fersiwn newydd o dôn hyfryd Kate "Lle Arall". Mae Meriel Field, prif leisydd a chwaraewr ffidil y band, wedi cyfrannu melodi newydd ar gyfer yr hen gân draddodiadol Gymreig "Tra Bo Dau" yn ogystal â chân wych arall "Arafu". Mae adran offerynnau pres am y tro cyntaf ar albwm Allan Yn Y Fan gyda chyfraniad amlwg yn nhrefniant y band o ddwy set o donau traddodiadol.
|