|
"Bydd hwn yn gydweithrediad arbennig iawn mewn sawl ffordd. Rwy’n cael fy ysbrydoli nid yn unig gan y stori a’r cysyniad o’r darn, ond hefyd gan y ffaith fod yr opera hon yn unigryw fel sgôr ar gyfer y llais a’r corff. Bydd y dawnswyr a’r cantorion yn estyniadau o’i gilydd, gan gydfeddiannu’r un gofod am y darn cyfan, ac yn creu byd cwbl homogenaidd y gall y cynulleidfaoedd ymgolli ynddo. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr drwy gydol y cyfnod creu, ac mae hynny’n fantais fawr. Mae’n golygu y byddwn yn gallu cyfathrebu’n gyson, a rhannu’n prosesau gyda’n gilydd, ond y mae hefyd yn hanfodol ar gyfer creu bydysawd sy’n llwyddo i dynnu holl elfennau’r lleisiau, y gerddoriaeth a’r ddawns at ei gilydd i greu undod cwbl gytûn."
|