|
Lothar Koenigs says: "The programme of this St. David’s Hall concert takes up the theme of liberty in the widest sense. Beethoven gave the score of his "Grande Fugue" the subtitle of tantôt libre, tantôt recherchée (partly free, partly elaborate) because it explodes so many known parameters, be they formal, rhythmic or harmonic, setting music itself free! In his trumpet concerto, Zimmerman quotes the negro spiritual "Nobody knows the trouble I see", rooting the music in a deeply religious yearning for freedom from oppression. Beethoven’s famous 5th Symphony concludes the concert, and in this work, too, Beethoven continuously breaks free from the musical conventions of his day, for instance in the way in which the Scherzo merges seamlessly into the barnstorming finale without interruption."
|
|
Meddai Lothar Koenigs: "Yn ein cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, mae’r prif bwyslais ar Ryddid, yn ei ystyr ehangaf. Ar y sgôr o’i waith Grosse Fuge, ysgrifennodd Beethoven y geiriau tantôt libre, tantôt recherchee (hynny o ryddid a astudiwyd), a does dim un gwaith arall gan Beethoven sy’n chwalu cymaint o ffiniau, boed yn ffurfiol, yn rhythmig neu’n harmonig. Dyfynna’r cyfansoddwr Zimmerman y gân negroaidd ysbrydol, "Nobody knows the trouble I see" yn ei goncerto i’r trymped. Mae testun caneuon o’r math hwn bron bob amser yn grefyddol eu natur, ac yn adrodd hanes pobol dan ormes (caethweision) yn troi at Dduw er mwyn mynegi eu hysfa am ryddid a thegwch. Ceir cyfuniad meistrolgar yma gan Zimmerman o Jazz a’r elfennau 12 tôn. Symffoni rhif 5 enwog Beethoven sy’n cloi’r cyngerdd, ac yma hefyd, mae Beethoven yn torri tir newydd - er enghraifft yn y ffordd mae’r 3ydd a’r 4ydd symudiad yn llifo’n ddi-baid, un i mewn i’r llall - y Scherzo yn toddi i mewn i’r finale ysgubol."
|