|
|
Croesewir mis Mawrth gyda pherfformiad gan y comedïwr o fri Stewart Lee, (7 Mawrth), yna daw’r ddrama rymus The Wood, (8 Mawrth) i’r llwyfan, i goffau canmlwyddiant diwedd y rhyfel Mawr. Mae The Wood, gan Owen Thomas, yn adrodd stori cyfeillgarwch, cariad ac aberth ar gefndir Brwydr y Somme. Daw’r hynod lwyddiannus And Finally... â thaith Phil Collins Collection 2018 Tour atom (10 Mawrth), gan gyflwyno’r holl glasuron, o In the Air Tonight i ddetholiad o oreuon Genesis. Bydd Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Canolbarth Cymru’n cyflwyno sioe ryngweithiol rad ac am ddim i ysgolion cynradd, The Lost Box of Stories (12 Mawrth), a bydd Dawns Powys Dance yn dathlu gwaith pawb fu’n cymryd rhan yn eu sesiynau, o bob oedran a gallu, yn MARCH/ FORWARD (16 Mawrth). Bydd yr academydd David Starkey’n cyflwyno sgwrs ddifyr a phryfoclyd, Henry VIII: The First Brexiteer? (17 Mawrth), a bydd pawb sy’n caru cerddoriaeth wrth eu bodd gyda’r gymysgedd unigryw o swing sipsi, jazz a cherddoriaeth blues y Remi Harris Trio (18 Mawrth). Bydd Gŵyl Ffilmiau Mynyddig Banff (20 Mawrth) yn dychwelyd i gyflwyno noson syfrdanol arall o ffilmiau byrion i danio awydd y gynulleidfa am antur a thaith! Archwilir stori dorcalonnus Pushkin a cherddoriaeth odidog Tchaikovsky gan Opera Canolbarth Cymru yn Eugene Onegin, (21 Mawrth). Bydd 21ain Darlith Goffa Syr John Lloyd (23 Mawrth), sy’n rhad ac am ddim, yn archwilio Cyfiawnder ym Mrycheiniog ar hyd y Canrifoedd gyda’r Arglwydd Thomas, a bydd yr Explosive Light Orchestra (24 Mawrth) yn dychwelyd i roi noson epig o glasuron roc a roc symffonig ar ôl ein syfrdanu yn eu sioe ddiwethaf. Daw mis Mawrth i ben yn yr uchelfannau gyda dyfeisgarwch diweddaraf The Circus of Horrors: Voodoo (26 Mawrth). Gallwch ddisgwyl sioeau syrcas bisâr, stori arswyd a hud tywyll anghredadwy – brawychus!
|