|
Daeth Tauseef Akhtar i Gymru ym mis Medi 2012 i gychwyn cydweithio â Gwyneth Glyn. Drwy asio’r gitâr a’r harmoniwm a Ghazal, y traddodiad cerddorol Wrdw, â’i eiriau mydryddol caeth, a’r Hen Benillion traddodiadol Cymreig, canfu Tauseef a Gwyneth lais a sain cyfunol newydd. Wrth i’r prosiect ddatblygu, mae cerddorion eraill wedi ymuno â hwy, yn cynnwys y delynores ddawnus Georgia Ruth Williams a’r cerddorion Indiaidd, Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das. Cyrhaeddodd y tîm Gymru o India yn gynharach yr wythnos hon trwy garedigrwydd Air India, sef cludwyr swyddogol y prosiect hwn.
|