|
Ar hyn o bryd mae Gwyneth yn byw ym mhrifddinas Caerdydd, a thair albym yn ddiweddarach, mae ei gwaith yn cael ei werthfawrogi gan gynulleidfaoedd ymhellach ac ymhellach i ffwrdd wrth iddi deithio, perfformio a chreu cyweithiau deinamig. Yn ddiweddar dechreuodd archwilio diwylliannau cerddorol a llenyddol gwledydd ymhell y tu draw i Gymru, gan gynnau cyfeillgarwch a chreadigrwydd ar y ffordd, dwysáu ei cherddoriaeth a’r profiadau sy’n ysbrydoli ei barddoniaeth. Mae ei chywaith cyfredol gyda’r cerddor Tauseef Akhtar o Mumbai, India, a gefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn gwau barddoniaeth Urdu a chanu ghazal gyda hen benillion Cymraeg, a’r offerynnau Indiaidd traddodiadol gyda gitâr a llais Gwyneth.
|