|
"Mae rôl swyddog cymorth cymunedol yn un heriol ond boddhaus, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn darparu presenoldeb gweladwy, sy'n tawelu meddwl yn y gymuned. Rwy'n ymwybodol bod llawer o swyddogion cymorth cymunedol yn wynebau cyfarwydd i lawer o bobl. Er nad oes gan swyddogion cymorth cymunedol yr un pwerau â swyddogion Heddlu arferol, maen nhw'n dal i ysgwyddo llawer iawn o gyfrifoldeb, yn cynorthwyo nid yn unig yn y gwaith o ymgysylltu â'r cyhoedd, ond hefyd wrth roi cymorth i swyddogion arferol mewn safleoedd troseddau mawr a digwyddiadau."
|