|
Yn ôl Tony Little, Canolfan Organig Cymru, 'Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad hwn. Mae'n golygu cynnydd sylweddol yn y taliadau cynnal i ffermwyr sydd yn y cynllun presennol. Mae'r adborth y mae'r Ganolfan Organig Cymru wedi'i dderbyn ynghylch lefelau'r taliadau hyn wedi bod yn gadarnhaol. Roedd y rhan fwya o ffermwyr yn y Cynllun Ffermio Organig ar hyn o bryd yn croesawu'r cynnydd yn y taliadau sydd wedi rhoi hwb i'w hyder o ran dal ati i ffermio'n organig. Am y tro cynta ers blynyddoedd lawer, rydyn ni hefyd wedi derbyn nifer bach o ymholiadau gan ffermwyr sy'n ystyried troi'n organig. Mae premiymau isel yn parhau'n destun pryder i gynhyrchwyr cig oen ac eidion ac er bod gwerthiant organig wedi cynyddu eleni, mae yna ansicrwydd o hyd ynglŷn â'r farchnad. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'r cyhoeddiad wedi cael derbyniad da. Mae llawer o'r manylion heb fod ar gael eto, gan gynnwys, yn hollbwysig, union ddiffiniad 'tir pori garw' a'r gofynion cynllunio busnes, ond daw'r cwbl yn amlwg erbyn Sioe Frenhinol Cymru.
|
|
Tony Little from Organic Centre Wales said: 'We welcome this announcement. It means a significant increase in maintenance payments for farmers who are in the current scheme. The feedback that OCW has received has been positive. Most farmers currently in the OFS welcomed the increase in payments, which has boosted their confidence about continuing to farm organically. We have also received a small number of enquiries for farmers considering conversion for the first time in many years. Low premiums are still a concern for beef and lamb producers and although organic sales have increased this year uncertainties remain about the market, overall the announcement has been well received. Much of the detail is not yet available, crucially the precise definition of 'rough grazing' and the business planning requirements, but all will become clear by the Royal Welsh Show.'
|