|
. Arferai'r cloddwyr alw Sffalerit (dde) yn sinc blend neu "Black Jack". Yn ei gyflwr naturiol, ei liw cyffredin yw brown tywyll. Po fwyaf o haearn sydd ynddo, y tywyllaf ydyw. Sylffid sinc yw Sffalerit neu sinc-blend, gyda'r fformwla ZnS ar gyfer y ffurf pur, sy'n cynnwys 66.94% o sinc. Fodd bynnag, mae'n gyffredin gweld rhywfaint o haearn (2-5% fel arfer) yn bresennol, ac mae sffalerit yn cynnwys cyfansymiau bach o gadmiwm hefyd. Er bod digon ohono yng Nghanolbarth Cymru, dim ond ar ôl y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd ei gloddio o ddifrif, pan welwyd y galw am sinc yn codi ar ôl sefydlu ffordd ymarferol o fwyndoddi'r mwyn. Cyn y cyfnod hwn, roedd yn cael ei waredu gyda'r gwastraff ac mewn rhai cloddfeydd, byddai'n cael ei gasglu â llaw o'r tomennydd ar ôl i hynny ddatblygu i fod yn broses ddichonadwy yn economaidd.
|